P-05-1029 Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno profion gorfodol ar yr holl deithwyr sy’n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lawrence Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 184 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Oherwydd y coronafeirws, mae’n ofynnol ar hyn o bryd i deithwyr fynd i gwarantîn wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd o restr o wledydd Ewropeaidd a rhyngwladol.

 

Mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r Maes Awyr i fynd allan o’r wlad ac i ddod i mewn iddi, at golli refeniw i gwmnïau hedfan sy’n cefnogi ein Maes Awyr cenedlaethol, a cholli refeniw i Faes Awyr Caerdydd Cyf, a diffyg hyder yn y diwydiant twristiaeth oherwydd bod angen i deithwyr fynd i gwarantîn ar ôl dychwelyd o wledydd penodol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Gweithredir Maes Awyr Caerdydd gan gwmni hyd braich o Lywodraeth Cymru, sydd wedi buddsoddi’n sylweddol yn y Maes Awyr a’i gyfleusterau / staff.

 

Os caniateir i sefyllfa bresennol cwarantîn gorfodol barhau bydd dirywiad trychinebus yn nifer y teithwyr yn arwain at golledion ariannol sylweddol i bawb dan sylw, sef, y Maes Awyr, y cwmnïau hedfan a’r teithwyr y mae’n rhaid iddynt, mewn llawer o achosion, benderfynu a ddylent roi’r gorau i’w cynlluniau teithio, y talwyd amdanynt eisoes, oherwydd y cyfyngiadau cwarantîn pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae llawer o wledydd ledled y byd eisoes yn gweithredu’n llwyddiannus system profion dau gam ar deithwyr wrth iddynt gyrraedd eu tiriogaeth a phrofi eto bum niwrnod yn ddiweddarach. Dylid cyflwyno hyn ym Maes Awyr Caerdydd i dawelu meddwl y cyhoedd sy’n teithio y gall eu hediad / gwyliau fynd ymlaen heb ragor o ansicrwydd, pryder a cholli arian a dalwyd. Byddai hyn hefyd yn dod â rhywfaint o sicrwydd unwaith yn rhagor i’r cwmnïau hedfan hynny sydd eisoes wedi buddsoddi ym Maes Awyr Caerdydd, a helpu i gadw eu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ogwr

·         Gorllewin De Cymru